National Star yng Nghymru
National Star yng Nghymru
Coleg dydd yw National Star yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd ag anableddau corfforol cymhleth, anableddau dysgu, cyflwr sbectrwm awtistig ac anaf caffaeledig i’r ymennydd. Rydym wedi ein lleoli ym Mhont-y-pŵl, ac rydym yn darparu rhaglenni addysg a therapiwtig personol. Mae hyrwyddo annibyniaeth, ymreolaeth a chyfranogiad wrth galon yr hyn a wnawn.
Y Cwricwlwm
Caiff ein cwricwlwm ei bersonoli i bob myfyriwr, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau bod yn fwy annibynnol ac actif i’w defnyddio ar ôl gadael coleg. Caiff pob myfyriwr ei gefnogi i ddatblygu sgiliau bywyd a sgiliau cyfathrebu, yn ogystal â sgiliau llythrennedd a rhifedd. Mae gan fyfyrwyr fynediad at amrywiaeth o therapïau, gan gynnwys therapi iaith a lleferydd, therapi galwedigaethol a ffisiotherapi. Canlyniad hyn yw bod myfyrwyr yn dyfod yn fwy annibynnol ac yn llai dibynnol ar eraill yn ddiweddarach yn eu bywydau.
Ymhlith y rhaglenni ceir y celfyddydau creadigol (celf, cerddoriaeth, TG, ffotograffiaeth ac amlgyfryngau), coginio a dysgu synhwyraidd, ochr yn ochr â chymwysterau achrededig. Mae myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau perthnasol i’r gwaith oddi fewn i’r coleg ac mewn lleoliadau gwaith allanol. Ymhlith y lleoliadau diweddar mae Glanfa’r Goetre, Ystâd Parc Mamhilad, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymraeg yn ffurfio rhan hanfodol o’r cwricwlwm, gan arwain at y myfyrwyr yn cynllunio a chymryd rhan yn yr Eisteddfod flynyddol.
Mae National Star yn cydnabod fod gallu ac anghenion gwahanol gan bawb. Dyna pam fod pob myfyriwr yn derbyn cymorth unigol i fodloni ei anghenion iechyd a gofal. Er enghraifft, mae myfyrwyr sydd â llawer o anableddau dysgu dwys yn cymryd rhan mewn cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar y synhwyrau gan ddilyn gweithgareddau yn ein hystafell ddosbarth sydd wedi ei chyfarparu’n arbennig ar gyfer hynny.
Ein Tîm
Rydym yn cymryd amser i ddod i adnabod ein myfyrwyr arfaethedig a’u teuluoedd cyn iddynt ymuno â ni. Mae hyn yn golygu ein bod, o ddydd i ddydd, yn gweithio tuag at nodau a dyheadau hir dymor ein disgyblion ar gyfer pan fyddant yn gadael y coleg.
Ein dull gweithredu tîm amlddisgyblaethol
Rydym yn arbenigwyr mewn gweithio fel rhan o dimau amlddisgyblaethol i alluogi myfyrwyr wneud cynnydd mesuradwy a chyflawni deilliannau. Er enghraifft, cafodd dysgwr a oedd ag uchelgais i weithio oddi fewn i ddiwydiant y cyfryngau ei gefnogi i gael profiad gwaith ac yn y pen draw rôl wirfoddol hir dymor gyda gorsaf radio gymunedol leol.
Uchelgais myfyriwr arall oedd defnyddio dyfais AAC yn fwy cyson i gyfathrebu ag eraill. Ar ôl dwy flynedd gyda National Star, gadawodd y coleg wedi cynyddu ei allu i gyfathrebu ar lafar, ac yn llai dibynnol ar ei ddyfais gyfathrebu.
Mae ein tîm yn cynnwys tiwtoriaid personol, cynorthwywyr addysgu, gweithwyr cefnogi, ymarferydd ymddygiad a therapyddion. Rydym yn falch fod un o’n tîm wedi ei enwi fel Gweithiwr Cefnogi’r Flwyddyn yng Ngwobrau Cenedlaethol Anableddau Dysgu ac Awtistiaeth Cymru.
Dysgu yn y gymuned
Mae gennym gysylltiadau cymunedol cryf ac rydym yn eu defnyddio i sicrhau fod myfyrwyr yn profi amgylcheddau a phrofiadau dysgu gwahanol. Er enghraifft, mae myfyrwyr yn defnyddio gym lleol ar gyfer ffitrwydd, a phwll hydrotherapi ar gyfer therapi dŵr. Yn ychwanegol, mae myfyrwyr wedi sefydlu eu menter gymdeithasol eu hunain sef siop fwyd ar gyfer busnesau lleol. Cafodd partneriaethau â cholegau lleol eraill eu sefydlu hefyd i gynyddu cyfleoedd dysgu.
Archebwch eich ymweliad
Er mwyn ymweld â National Star yng Nghymru, cysylltwch â Jon Haile drwy e-bostio admissions@nationalstar.org neu ffonio 01495 367023 neu 07866 118001.